Cyngor
Wrth weithio gyda chi'n gyfrinachol, gall arbenigwr busnes annibynnol eich helpu i daclo’r materion mwyaf pwysig sy’n effeithio eich busnes, a rhai ohonynt efallai nad oedd yn amlwg i chi o'r blaen. Gallwch ystyried eich cynghorwr fel eich mentor personol y gallwch ymddiried ynddo/i, a fydd yn dod ag ystod eang o brofiad a chysylltiadau i’ch busnes.
Mae rheoli hyd yn oed cyfundrefn fach heddiw’n fwy heriol nag erioed. Dydi adnabod y busnes ddim yn ddigon. Fel rheolwyr, mae’n rhaid i chi ymdopi â deddfwriaeth sy’n newid yn gyflym; gyda baich gweinyddol cynyddol; marchnadoedd cyfnewidiol; costau cynyddol a newidiadau cyson mewn technoleg. Yn ogystal, mae'n ofynnol i chi fod yn sensitif i faterion ac agweddau diwylliannol. Mae sicrhau eich bod yn gyfoes gyda’r materion hyn oll yn cymryd mwy a mwy o amser ac egni, felly mae’n gwneud synnwyr i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. Dyma le y gallwn ni fod o help i chi.
Rydym wedi cael y fraint o helpu yn llythrennol cannoedd o gyfundrefnau, bach a mawr, dros y 30 mlynedd diwethaf. Gallwn ddarparu neu drefnu cyngor ar bron unrhyw agwedd o fusnes, a hyn drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Dyma enghreifftiau o’r math o gyngor y mae’r mwyaf o ofyn amdano.
Cael hyd i Grant
"Sut allaf i gael grant?". Yn aml, hwn yw'r cwestiwn gyntaf mae cleient newydd yn ei ofyn inni. Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol i ddarganfod a chael grantiau ar ran ein cleientiaid ac wedi neilltuo rhan cyfan o'r wefan hon i'r pwnc. Gallwn un ai eich cynghori a'ch cynnal wrth i chi chwilio am grant, ac hefyd gyda darparu'r cais, neu fe allwn wneud yr holl broses i gyd ar eich rhan.
Cynyddu Elw
Mae'n rhyfeddol faint o ffyrdd sy'n bodoli er mwyn gwella elw mewn cyfundrefn ac rydym wedi helpu nifer fawr o'n cleientiaid i wneud hynny. Mae'r broses yn cynnwys dadansoddiad ariannol manwl o'ch busnes sydd yn cymryd i ystyriaeth bob ffactor perthnasol sy'n effeithio eich elw. Bydd y camau y byddwn yn eu cymeradwyo yn cymryd i ystyriaeth cyfyngiadau eich adnoddau (ariannol, dynol, risg ayyb.), gan nad oes diben i ni gymeradwyo gweithgareddau nad ydych mewn sefyllfa i’w cyflawni. Darparwn gynllun gweithredu ar eich cyfer a fydd yn hollol realistig ac ymarferol.
Cynlluniau Busnes
Hwn yw un o'm gwasanaethau mwyaf poblogaidd. Mae gan bob cyfundrefn angen cynllun busnes, ac mi ddylai hwn fod yn 'ddogfen byw' a gaiff ei adolygu’n gyson. Gallwn eich cynghori a'ch arwain chwi bob cam o'r ffordd, neu gallwn ddarparu'r cynllun ar eich cyfer.
Cynyddu'r Gwerthiant
Pam na adewch i ni gymryd golwg o'r newydd ar eich perfformiad gwerthiant, adnoddau a thechnegau? Gall arolwg gwrthrychol o'r tu allan ddatgelu pethau sydd ddim yn amlwg i chi. Rydym wedi helpu nifer fawr o fusnesau i gyflawni eu potensial gwerthiannau, a gall ein profiad a’n ymwybyddiaeth o dechnegau newydd roi hwb i'ch perfformiad mewn ffordd a all eich synnu chi.
Archebion yw sylfaen unrhyw fusnes, ac mae'n bwysig i sicrhau bod eich gweithgareddau gwerthiant mor effeithiol â phosib. Gallwn adolygu’r ffordd yr ydych yn mynd o gwmpas pethau rwan ac, os yw'n briodol, awgrymu ffyrdd i sicrhau gwelliant.
.
Rhagolygon Ariannol
Mae rhagolygon ariannol yn rhan annatod o gynllun busnes, ond hefyd mae sawl achlysur pan fydd gennych angen adolygiad o'r fath i’w ddefnyddio fel erfyn ar ei ben ei hun. Gallwn eich cynghori ynglyn â’r wahanol arfau meddalwedd sydd ar gael, darparu taenlenni wedi eu cynllunio ar gyfer eich sefydliad, neu eich dysgu chi i ddarparu nhw eich hunain.
Marchnata'n fwy Effeithiol
Os ydach chi’n gyfundrefn fach neu ganolog ei faint, mae'n debyg na fod gennych mo'r amser na'r staff i weithredu ar farchnata a hyrwyddo eich busnes i'r graddau y buasech yn ei hoffi. Dyma rhai o'r pethau y gallwn wneud i'ch helpu chi.
Wrth weithio gyda chi, gallwn edrych yn fanwl ar y ffordd yr ydych yn gwneud pethau rwan, a'ch helpu chi i ystyried ffyrdd newydd i ddenu busnes. Gallwn werthuso eich marchnadoedd yn annibynnol, eich helpu i asesu eich cystadleuwyr, adnabod eich sectorau mwyaf proffidiol a’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gweithgareddau marchnata yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib.
Fel arbenigwyr yn y technegau a’r technolegau o farchnata ar y Rhyngrwyd ac e-fasnach gallwn eich helpu (ble mae hyn yn briodol) i elwa o’r farchnad ryngwladol enfawr hon.
Gallwn hefyd eich cynghori ynglyn â datblygu cynllun marchnata a chyllid - yn enwedig yr amseru a sgôp eich gweithgareddau marchnata. Gallwn hyd yn oed ddarparu eich cynllun marchnata ar eich rhan.
Gweler hefyd ein seminarau Cynllunio a Hyfforddiant Marchnata.
Gwerthuso Syniad Busnes
Er pa mor dda y gall eich syniad fod, mae'n holl bwysig i dreulio peth amser i'w werthuso cyn ymrwymo eich arian, ac efallai blynyddoedd o'ch bywyd, iddo. Gallwn eich helpu chi i gydbwyso’r peryglon yn erbyn y buddion - bob amser gydag eich lles chi dan sylw.
Byddwn yn eich annog i ystyried eich prosiect mewn ffordd bragmatig, ac i fyfyrio ar gwestiynau pwysig iawn. Gan ddefnyddio amryw o dechnegau dadansoddi, gallwn eich helpu i adnabod y cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythion a fyddai'n gysylltiedig â’r fenter newydd. Os ydych yn bwriadu sefydlu menter newydd seiliedig ar y Rhyngrwyd, rydym ymysg y nifer weddol fychan o gynghorwyr yng Nghymru sy’n gallu cynghori ar y pwnc yma o brofiad.
Cynyddu'r Busnes
Mae angen rheoli tyfiant os yw am fod yn dyfiant iach. Mae hyn weithiau’n golygu datblygu strwythur eich cyfundrefn, ac efallai dirprwyo mwy nag oeddech yn ei wneud o’r blaen. Gallwn eich helpu i wneud hyn, a hefyd i werthuso ymlaen llaw'r adnoddau ariannol, logistaidd, a dynol a fydd yn berthnasol i'r tyfiant.
Eich Delwedd a Brand
Ydych chi’n gwybod sut mae eraill yn gweld eich cyfundrefn, neu chi fel unigolyn?
Efallai bod eich ffrindiau gorau ddim am ddweud, rhag ofn brifo eich teimladau. Bydd eich cystadleuwyr wrth eu boddau os oes nam ar eich delwedd - a wnânt nhw ddim dweud wrthoch chi! Gallwn ni roi barn wrthrychol i chi, adnabod cyfleoedd i wella, a'ch helpu i'w rhoi ar waith. Buasai cyfarfod archwiliadol yn costio dim.
Hwn yw un o'r meysydd pwysicaf ac efallai yr un sy’n cael ei esgeuluso fwyaf gan bobl. P’un ai eich bod yn rheoli sefydliad mawr, yn hunan gyflogedig neu’n weithiwr cyflogedig - mae’r ffordd yr ydych yn ymddangos i eraill yn cael effaith mawr ar eich llwyddiant a’ch hunan hyder.
Efallai eich bod yn sylweddoli’n barod fod angen cryfhau neu wella eich delwedd mewn rhai mannau - neu efallai y byddwch yn teimlo y gallech fanteisio o brofiad rhywun o’r tu allan. Gallwn eich helpu ym mhob achlysur. Gallwn eich helpu i wella eich delwedd gorfforol, llafar, trwsiad, ar y We neu ar bapur, rydym hefyd yn cynnig cyngor personol a chyfrinachol, hefyd hyfforddiant mewn grwp neu un-i-un.
Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru, UK LL55 2LX | Ffôn: 01286 675779 Gwefan: www.getthatgrant.co.uk
Ymholiadau Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant - Ebost: mail@mswales.com Gwefan: www.mswales.com