Fformiwla Llwyddiant
Cynlluniau Busnes
Cynlluniau Marchnata
Astudiaethau Dichonoldeb a Hyfywdra
Cynlluniau Gweithredu
Cynlluniau Datblygu Strategol
Eich Delwedd a Brand
Cynllunio
Gan weithio gyda chi’n gyfrinachol, gall ymgynghorydd annibynnol profiadol eich helpu i daclo’r materion pwysig sy’n effeithio’ch busnes, rhai, efallai nad oeddynt yn amlwg i chi o’r blaen. Meddyliwch am eich ymgynghorydd fel mentor personol a ‘confidant’, a fyddai’n dod â phrofiad eang ynghyd â chysylltiadau i’ch sefydliad.

Y dyddiau hyn, nid yw adnabod eich busnes yn ddigon. Mae’n rhaid i chi fedru ymdopi â newidiadau cyflym mewn deddfwriaeth; cyfyngiadau credyd, marchnadoedd cyfnewidiol; costau sy’n cynyddu a’r newidiadau cyson ym myd technoleg.   Mae’n  hanfodol eich bod yn gwybod sut mae’r ffactorau hyn yn debygol o effeithio eich busnes, a chynllunio ar eu cyfer.
Mae nifer o gynlluniau neu astudiaethau gwahanol a fyddai, efallai o gymorth i   sefydliad. 
Dyma rhai ohonynt.
Cynlluniau Marchnata
Prif bwrpas cynllun marchnata yw datgan sut yn union mae'r gyfundrefn yn bwriadu hyrwyddo ei nwyddau a'i wasanaethau er mwyn denu ymholiadau sy'n arwain at archebion.  Gall fod yn ddogfen annibynnol neu yn rhan o gynllun busnes. Mae cynllun marchnata yn broffwydoliaeth, ac mae ei gywirdeb yn dibynnu ar y profiad, gwybodaeth ac ymchwil sy’n mynd i mewn iddo.  Dylai gael ei adolygu’n gyson er mwyn darganfod pa rannau sy’n gweithio, a pha rannau sydd ddim, ac yna eu haddasu yn unol â hyn.  Mae’n ddogfen ‘byw’.
 
Mae nifer o fusnesau’n dal i roi’r un hen hysbysebion allan, yn yr un modd, blwyddyn ar ôl blwyddyn heb unrhyw brofi pa rai sy’n dod â busnes i mewn a pha rai sydd dim.  Y canlyniad yw gwastraff arian, a chyfleoedd wedi eu colli.  Mae cynllun marchnata da, sydd â llawer o feddwl wedi mynd iddo, ynghyd â sustem monitro effeithiol, yn gallu trawsnewid eich llyfr archebion - er gwell!

Ydych chi’n defnyddio’r Rhyngrwyd i farchnata eich nwyddau neu wasanaethau?  Os na, mae’n debyg eich bod yn colli allan ar gyfle ardderchog i gynyddu eich gwerthiant - er bod llawer mwy i’r peth na chynllunio gwefan.  Mae’n rhaid i chi wybod y dechneg o e-farchnata.  Beth am farchnata drwy e-bost?  Dyma, yn sicr, dull mwyaf cost-effeithiol sydd ar gael heddiw - hynny yw os gymrwch y camau cywir!  Rydym yn arbenigo yn y maes hwn o farchnata.


Cynlluniau Gweithredu
Mae cynllun gweithredu, fel arfer, yn delio â’r ffordd mae sefydliad yn gweithio o ddydd i dydd.  Allai cynllun o’r fath gael ei ddefnyddio i roi gwybodaeth i budd-ddeiliaid a gweithwyr ar sut mae’r sefydliad yn gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu yn y dyfodol.  Mae’n broses trefniadol, ac wedi ei seilio ar bolisïau, materion yn ymwneud â’r sefydliad ac ymarfer da.


Cynlluniau Datblygu Strategol
Mae cynllun datblygu strategol yn edrych ar lle y byddai’r sefydliad yn hoffi bod ar bwynt arbennig yn y dyfodol, a sut i gyrraedd y nod hwnnw.  Ar phob cam o’r ffordd, byddai’n ystyried yr opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn darparu rhesymeg i gefnogi symud mewn cyfeiriad priodol.

Mae cynllun datblygiad strategol yn cynnwys ‘rhagolwg cyllidol’, a byddai hefyd yn cadw mewn cof y goblygiadau adnoddol o ddatblygu i’r cyfeiriad a ddynodir.  Yn gyffredinol, dim ond pan fydd y cynllun wedi ei dderbyn gan y budd-deiliaid y caniateir i’r broses fynd yn ei blaen i’r cam nesaf sef darparu cynllun busnes.  Mae'r cynllun busnes yn fersiwn fwy manwl o'r cynllun datblygu strategol.
Cynlluniau Busnes
I gyflawni ei bwrpas, mae'n rhaid cyflwyno cynllun busnes yn dda, a’i deilwra ar gyfer y gynulleidfa sydd am ei darllen. Mae’n rhaid iddo ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei angen, mewn ffordd glir; rhesymegol a realistig. Mae’n bwysig iddo sefyll allan, a chreu argraff dda ar y darllenydd. Mae gennym dros 35 mlynedd o brofiad o ddarparu cynlluniau busnes llwyddiannus a realistig ar gyfer ein cleientiaid, ac rydym wedi casglu arbenigedd helaeth mewn rhagolwg cyllidol a modelu ariannol.

Wrth weithio gyda chi a chyfuno rhaglenni prosesu geiriau, Cyhoeddi Pen bwrdd [DTP], a thechnegau taenlenni, gallwn eich helpu i ddarparu cynllun busnes trawiadol a phroffesiynol a fydd yn creu argraff ardderchog ar eich cynulleidfa. Gallwn hefyd ddarparu a chyflwyno’r cynllun cyfan ar eich cyfer ar ffurf brintiedig ac electronig.

Nid yw'r gwasanaeth yn dod i ben ar ôl cwblhau'r cynllun. Byddwn yn barod iawn i weithio gyda chi wedi hynny, er mwyn monitro eich cynnydd a’ch helpu i gyrraedd y nod.  Os ydych am ddysgu mwy am ddarparu cynlluniau busnes, a rhagolygon ariannol, buasai mynychu ein seminar 'Darparu'r Cynllun Busnes' yn fuddiol iawn.


Astudiaethau Dichonoldeb a Hyfywdra
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng astudiaeth dichonoldeb ac astudiaeth hyfywdra?  Wel, mae nhw'n weddol agos yn eu bwriad.  Yn syml, mae astudiaeth dichonoldeb yn arholi prosiect newydd i weld os ydi o'n ymarferol, ac mae astudiaeth hyfywdra'n ystyried y tebygrwydd iddo weithio yn ôl y bwriad a chyrraedd y nod.  Yn aml, mae'r ddau fath o astudiaeth yn gynwysedig mewn un adroddiad.  


Eich Delwedd a Brand
P’un ai eich bod yn rheoli sefydliad mawr, yn hunan gyflogedig, mae’r ffordd yr ydych yn ymddangos i eraill yn cael effaith mawr ar lwyddiant.  Bydd eich cystadleuwyr wrth eu boddau os oes nam ar eich delwedd - a wnânt nhw ddim dweud wrthoch chi! Gallwn ni roi barn wrthrychol i chi, adnabod cyfleoedd i wella, a'ch helpu i'w rhoi ar waith. Buasai cyfarfod archwiliadol yn costio dim.
Gallwn wneud y gwaith a'r ymchwil i gyd, a darparu'r ddogfen gorffenedig ar eich rhan, neu
eich cynghori a'ch cynnal chi wrth i chi wneud y rhan fwyaf o'r gwaith, neu
darparu asesiad proffesiynol o gynllun neu astudiaeth sydd wedi ei ddarparu'n barod gennych chi, fel y gallwch ei gyflwyno'n ffurfiol gyda thawelwch meddwl.
Gallwn wneud y gwaith a'r ymchwil i gyd, a darparu'r ddogfen gorffenedig ar eich rhan, neu
Eich cynghori a'ch cynnal chi wrth i chi wneud y rhan fwyaf o'r gwaith, neu
darparu asesiad proffesiynol o gynllun neu astudiaeth sydd wedi ei ddarparu'n barod gennych chi, fel y gallwch ei gyflwyno'n ffurfiol gyda thawelwch meddwl.
Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru, UK LL55 2LX   |  Ffôn: 01286 675779   Gwefan: www.getthatgrant.co.uk
Ymholiadau Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant -
Ebost: mail@mswales.com   Gwefan: www.mswales.com


Planning
 
 
 
 
 
 
Map Safle
Dylunio Gwe:  Pobol y We