Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, North Wales, UK LL55 2LX | Tel: 01286 675779 Web: www.getthatgrant.co.uk
Consultancy & Training Enquiries - Email: mail@mswales.com Web: www.mswales.com
Dadansoddiad
Dadansoddiad busnes yw’r broses o edrych ar bob elfen o’r busnes a gweld sut y mae’n cyfrannu at, neu dynnu oddi wrth perfformiad, y sefydliad yn ei gyfanrwydd.
Modelu a Dadansoddiad Ariannol
Gall cael model ariannol manwl o’ch busnes wedi ei greu gan ymgynghorydd busnes profiadol gan ddefnyddio’r meddalwedd ariannol diweddaraf, yn arf amhrisiadwy.
Bydd yn eich galluogi i reoli eich perfformiad ariannol yn effeithiol a rhagweld eich perfformiad yn y dyfodol. Mae modd i chi ragweld senarios posib yn y dyfodol, a gweld beth fyddai’n digwydd pe bai graddau llog, costau amrywiol, neu raddfeydd llafur yn newid. Gallwch ragweld yr effaith o gynyddu neu leihau prisiau - yn wir, gallwch newid y ffigyrau er mwyn gweld sut y byddai’n effeithio eich sefyllfa ariannol. Drwy ddefnyddio’r dull hwn, rydym wedi helpu cannoedd o sefydliadau i weld twf yn eu helw a gwelliant yn eu llif arian.
Gall y model hwn hefyd ddadansoddi cyfraniadau’r elw gros (neu ddraenio) ar gyfer pob sector unigol yn o’ch gweithgaredd busnes. Mae hyn yn bwysig, oherwydd, mewn sefyllfa aml gynnyrch, byddai rhai nwyddau yn cyfrannu ychydig neu dim refeniw i’r busnes tra’n draenio arian yn sylweddol. Mae’r busnesau sy’n anymwybodol o’r ffeithiau syml hyn y mae perygl iddynt wastraffu arian yn marchnata a hyrwyddo cynnyrch sy’n cynhyrchu canran fechan iawn o elw.
Yn y rhan fwyaf o achosion, dydy’r cyfrifon blynyddol ddim yn helpu yn y cyswllt hwn oherwydd maent yn dangos y ffigyrau ar gyfer y busnes yn ei gyfanrwydd yn hytrach na rhoi’r cyfraniad unigol y mae pob un cynnyrch a gwasanaeth yn ei wneud i elw’r cwmni.
Mae cywirdeb dadansoddiad o’r fath yn dibynnu i raddau helaeth ar gywirdeb a manylder y ffigyrau ar gael ar eich system cyfrifon. Os nad yw’r wybodaeth hon yn ddigonol, gallwn roi cyngor ichi ynglyn â systemau cyfrifon mwy addas.
Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi
Mae dadansoddiad sgiliau yn gwerthuso’r sgiliau sydd ei angen yn eich sefydliad, ac yn asesu maint y sgiliau eich staff sy’n bodoli’n barod gyda’r sgiliau sydd eu hangen. Wedyn, byddwn yn cynhyrchu Cynllun Hyfforddi ar gyfer eich sefydliad a fyddai’n llenwi’r blwch.
Fe wnawn roi rhestr o ddarparwyr ynghyd a’r amcan gostau i chi. Gyda’r wybodaeth hon, fe fyddwch yn medru penderfynu ar y math o hyfforddiant, y blaenoriaethau a’r amseru sydd ei angen.
Adolygiadau Busnes
Mae adolygiad busnes yn werthusiad annibynnol o’ch sefydliad, wedi ei arwain gan ymgynghorydd busnes profiadol. Fel gallwch ei ystyried fel ‘prawf iechyd’ ar gyfer eich busnes - ond mae’n cyflawni llawer mwy na hyn.
Dydy o ddim ots pa mor llwyddiannus ydy o, mae lle i wella ym mhob busnes. Efallai bod eich cwmni yn meddu ar gryfderau a chyfleoedd sydd heb eu datblygu i’w llawn botensial, neu wendidau sydd angen eich sylw.
Gall arolwg annibynnol diduedd o’ch sefydliad amlygu materion a syniadau sydd ddim yn amlwg i chi, ac yn dod a gogwyddion neu broblemau nad ydych yn ymwybodol ohonynt gan eich bod yn rhy brysur.
Mae’r ymgynghorydd yn astudio bob agwedd o’ch busnes ac yn cynnig argymhellion y gallech ei wneud i wella neu ddatblygu eich sefydliad, neu i ddelio â phroblemau. Gwneir hyn drwy ddadansoddi, a gwerthuso pob agwedd o’ch sefydliad. Gwneir hyn drwy ymweliadau, cyfweliadau, dadansoddiad ariannol neu wybodaeth arall y byddwch yn ei darparu, ac ymchwil arall.
Syndod, efallai, yw nad fydd ymgynghorydd busnes cymwys ddim angen cael gwybodaeth o flaen llaw o’r math o fusnes er mwyn rhoi cyngor ardderchog i chi. Ar ddiwedd y broses o adolygu, mae’r ymgynghorydd yn darparu adroddiad manwl a chynllun gweithredu i chi.
Adolygiadau Sgiliau
Mae hon yn broses hynod o ddefnyddiol a gwerth chweil lle rydym yn cyfweld a’r staff i gyd ac yna’n llunio adroddiad sy’n arddangos yr holl sgiliau boed, y rhai a ddatgelir, neu heb eu datgan o fewn eich gweithlu.
Yn aml iawn, y sgiliau hynny sydd wedi aros yn guddiedig sy’n syndod mawr i bawb. Er enghraifft, fe ddarganfuwyd fod un cleient wedi cyflogi unigolyn i wneud gwaith digon syml yn ei amser sbâr i wneud y llyfrau i nifer o glybiau a chymdeithasau, gan ddefnyddio technegau cyfrifiadurol cyfrifo cyfredol. Hobi yn unig oedd hyn iddo fo, ond o ganlyniad fe drosglwyddwyd i adran gwahanol le rhoddwyd ei sgiliau ar waith.


