Fformiwla Llwyddiant
Archwiliadau am Grantiau
Cyngor ac Arweiniad
Darparu Cais ar eich Rhan
Rhag-Asesu eich Cais
Defnyddio Ymgynghorydd
Grantiau
Mi allai grantiau eich galluogi i ddal ati gyda phrosiectau y buasech chi, fel rheol, ddim yn gallu eu cyllido.  Gall grantiau ei helpu i brynu offer a pheiriannau, ailwampio adeiladau, rhoi hyfforddiant, ehangu rhaglenni cyllid a llawer mwy.  Er hynny, nid yw yn hawdd dod o hyd i grantiau addas a chyflwyno ceisiadau llwyddiannus.

Gan mai swm neilltuol yw’r cyllid sydd gan y cyrff dyfarnu mewn unrhyw flwyddyn benodol, maen siwr y byddwch yn wynebu cystadleuaeth gref gan ymgeiswyr eraill.  Gan na fydd y swyddogion dyfarnu wedi eich cyfarfod na gweld eich busnes, mi fydd yn rhaid iddyn nhw seilio eu penderfyniad ar ddeunydd ysgrifenedig rydych chi’n ei ddarparu. Mae hyn yn golygu fod eich cais yn gorfod o ansawdd uchel, ac mae’n rhaid gwneud cyfiawnder a’ch prosiect.  Er mwyn darparu’r cyfle gorau i sicrhau llwyddiant bydd angen i chi fod yn wybodus iawn ac wedi cael cyngor da.  Mae gan Management Support Cymru llwyddiant ysgubol yn y maes yma.
Archwiliadau am Grantiau
Rydym yn gyfarwydd â delio gyda chyrff dyfarnu, ac mae gennym hawl i weld ystod eang o wybodaeth nodedig a chysylltiadau, felly mi allwn gan amlaf adael i chi wybod yn weddol gyflym os yw ffynhonnell(au) grant ar gael a fyddai’n addas ar gyfer eich prosiect.



Darparu Cais ar eich Rhan
Dyma un o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd.  Fe wnawn ni'r gwaith caled i gyd, gan weithio yn glos gyda chi pob cam o’r ffordd.  Mae’r gwasanaeth yn cynnwys –











Cyngor ac Arweiniad
Os byddwch yn penderfynu paratoi’r cais am grant eich hun, mi allwn gynnig cymorth ymarferol a chyngor a fyddai’n gwella eich siawns o lwyddiant yn sylweddol. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth i'r raddfa sydd yn eich siwtio chi.

Am wybodaeth werthfawr gynhwysfawr sy’n rhoi gwybodaeth sydd ddim ar gael fel arfer, rydym yn eich cynghori yn gryf i lawr lwytho'r e-lyfr 
- How to Get A Grant.  Cliciwch ar y blwch uchod i gael copi.  Caiff i lawr lwytho yn syth fel e-lyfr, neu mae modd i chi archebu copi printiedig wedi ei rwymo. Gall y llyfr yma “dalu ar ei ganfed” i chi  os wnewch chi ddilyn y cyngor.


Rhag-Asesu eich Cais
Os ydych eisoes wedi darparu eich cais am grant, mae’n gwneud synnwyr i chi ofyn i ni baratoi asesiad annibynnol a phroffesiynol cyn i chi gyflwyno eich cais i’r awdurdod dyfarnu. Rydym yn aseswyr grant allanol gan rai o awdurdodau lleol a chyrff eraill, felly rydym mewn sefyllfa gref i roi cyngor gwerthfawr i chi.  
How to Get a Grant - Llyfr
Cysylltu â’r awdurdodau dyfarnu cyn, yn ystod, ac wedi cyflwyno’r cais, ac ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi;
Paratoi cynllun busnes sy’n cynnwys rhagolwg ariannol (os bydd angen);
Cwblhau’r ffurflenni cais am grant, a gwneud yn sicr bod pob dogfen ategol o dystiolaeth yn ei le;
Rhwymo a choladu’r cyflwyniad mewn modd proffesiynol;.
Gwneud yn siwr eich bod yn cadw at ddyddiad cau'r corff dyfarnu;
Dosbarthu’r cais llawn i’r awdurdod dyfarnu, a rhoi copi i chi.
Pam Defnyddio Ymgynghorydd Proffesiynnol
Rhan amlaf ddim ond cwblhau ffurflen gais weddol syml sydd ei angen ar gyfer grantiau bychain, er hynny, mae’r rhan fwyaf o geisiadau yn mynnu cael cynllun busnes ynghyd â rhagolwg ariannol a dogfennau ategol.  A cyn dechrau arni i ddod o hyd i grant a mynd drwy’r broses o gyflwyno’r a gwneud y cais, mae 'na nifer o bethau y dylech ei wneud yn y ffordd gywir.  Ac os na wnewch y rhain yn iawn, mi allech wastraffu llawer o’ch amser a’ch egni, a bydd eich cais yn debyg o fethu.






Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod hyn - nid chi yw’r unig un. Mae cynifer o sefydliadau bach a mawr yn yr un sefyllfa.

Ers inni ffurfio ym 1993, mae dros 95% o geisiadau am grant rydym ni wedi ei gyflwyno ar ran ein cleientiaid wedi llwyddo.  Wrth gwrs, ni allwn warantu llwyddiant ym mhob achos, ond credwn bod ein enw da’n tystiolaethu am ein gallu!
A wyddoch chi pa grantiau sydd ar gael; a lle i ddod i hyd iddyn nhw?
A wyddoch chi os yw eich sefydliad yn gymwys a sut yn union i wneud cais?
A wyddoch chi hefyd pa beryglon sydd, a sut i’w hosgoi, a be yw’r ffactorau hanfodol mae aseswyr grant yn edrych amdanynt?
Os ydych o ddifrif ynglyn â cheisio am grantiau, prynu'r llyfr hwn fyddai o bosib y buddsoddiad gorau allech ei wneud.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru, UK LL55 2LX   |  Ffôn: 01286 675779   Gwefan: www.getthatgrant.co.uk
Ymholiadau Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant -
Ebost: mail@mswales.com   Gwefan: www.mswales.com


 
 
 
 
 
Map Safle
Dylunio Gwe:  Pobol y We