Management Support
54 Tyddyn Llwydyn, Caernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru, UK LL55 2LX   |  Ffôn: 01286 675779   Gwefan: www.getthatgrant.co.uk
Ymholiadau Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant -
Ebost: mail@mswales.com   Gwefan: www.mswales.com


Hyfforddiant Busnes
Gallwn ddarparu cwrs ar eich cyfer ar bron unrhyw bwnc cysylltiedig â busnes.  Dyma restr o rai o'n cyrsiau mwyaf poblogaidd.  Gallwn addasu bob un yn ôl gofynion eich sefydliad chwi.  Cliciwch ar y linciau am fwy o wybodaeth.

Mae’n sesiynau hyfforddi wedi eu cynllunio i ddarparu sgiliau penodol yn hytrach na ennill cymwysterau, ac wedi eu teilwrio’n benodol i bawb. Felly, os hoffech chi (er enghraifft) ychydig o oriau o hyfforddiant ar daenlenni Excel, neu ddiwrnod cyfan ar ragolwg ariannol, neu gynlluniau busnes, fe allwn gynnig yr hyn sydd ei angen arnoch.  Mae pob sesiwn hyfforddiant yn ymarferol, yn anffurfiol, ac yn rhyngweithiol.
Fformiwla Llwyddiant
Cyflwyniadau sy’n Creu Argraff
A ydy’r syniad o sefyll o flaen grwp o bobl a siarad â nhw yn codi ofn arnoch chi?  A oes arnoch angen help i roi sglein ar eich sgiliau presennol?  Os felly, fydd y cwrs hwn yn bendant yn eich helpu.

Mae’n amhosibl dysgu sut i yrru car drwy wrando ar yr athro yn unig ac mae’n amhosibl dysgu sut i siarad yn gyhoeddus drwy wrando ar ddarlith yn unig ac mae’n rhaid codi ar eich traed a’i wneud gyda chyflwynydd profiadol wrth eich ochr i’ch cyfarwyddo.  Yr ydym yn sicrhau bod y gweithdai yn cynnwys dim mwy na 12 o bobl er mwyn rhoi’r cyfle i bob un dderbyn cyfarwyddiadau personol.  Mae’r cwrs yn cael ei gynnal dros dair sesiwn hanner diwrnod.

Yn y sesiwn gyntaf, fe fyddech chi’n dysgu’r sgiliau sylfaenol ac yn rhoi cyflwyniad 2-funud.  Yn ystod yr ail sesiwn, fyddech chi’n dysgu mwy o sgiliau a thechnegau ac yn paratoi ac yna’n rhoi cyflwyniad 5-10-munud.  Fyddech yn derbyn hyfforddiant arbenigol, ac adborth oddi wrth bawb ar y cwrs, ynghyd â fideo o’ch araith.  Yn y drydedd sesiwn, fe fyddech chi’n ailgyflwyno’ch araith gan roi ar waith yr hyfforddiant newydd yr ydych wedi ei chael (fyddech yn derbyn fideo o’r araith hon hefyd).  O brofiad, yr ydym wedi darganfod mai yn ystod y drydedd sesiwn honno y mae rhywun yn gwella go iawn ac mae angen amser rhwng traddodi ar gyfer adolygu’r cynnwys ac ailwampio’r cyflwyniadau.  Dyna pam yr ydym yn cynnal y cwrs dros gyfnod o dri hanner diwrnod.  Awgrymir bwlch o tuag wythnos rhwng pob sesiwn.


Rheoli Ymddygiad Heriol
Sut mae delio gyda rhywun sy’n flin, yn ddiamynedd, yn rhwystredig, yn swil, yn apathetig neu yn ddigywilydd?  Dydy hyn byth yn hawdd ond mae’n rhywbeth y bydd rhaid ichi ei wneud o bryd i’w gilydd - yn enwedig os ydych yn rheoli busnes.  Fe fydd y seminar hon yn eich arfogi gyda strategaethau i reoli sefyllfaoedd a phobl anodd.  Fe fyddem yn dangos yr hyn sydd wrth wraidd problemau o’r fath a dulliau effeithiol ar gyfer diffiwsio tensiwn a delio gyda phobl ymosodol.  Mae hwn yn un o’n cyrsiau mwyaf poblogaidd a llwyddiannus.


Marchnata Eich Busnes a Chanlyniadau Llwyddiannus
Er mwyn denu archebion, mae’n rhaid i bobl wybod be yr ydych yn ei werthu, a pham y dylen nhw ei brynu, ac o le.  Dyna yw bwriad marchnata.  Mae’r seminar yma yn gofyn cwestiynau caled ynglyn â’ch busnes, ac yn dangos i chi sut i adnabod eich pwyntiau       gwerthu unigryw, a sut i adeiladu proffil cwsmer.  Wedi i chi ganfod eich darpar gwsmeriaid a’u hanghenion, mi fyddwch yn dysgu sut i ganolbwyntio ar eich strategaeth marchnata er mwyn cyrraedd atynt.


Lluniwch Ffurflenni Electronig sy’n Gweithio
Mae angen ffurflenni ar bob cwmni ond mae’r broses o’u dylunio a’u hargraffu yn gallu bod yn ddrud.  Bydd y seminar hon yn esbonio’r broses a’r egwyddorion a fydd yn eich helpu i lunio ffurflenni ymarferol.  Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i lunio ffurflen electronig i’w cwblhau ar y sgrin.  Mae’r cwrs hwn yn ddefnyddiol iawn i’r cwmni bach a’r sefydliad mawr fel ei gilydd.  Mae’n ddelfrydol ar gyfer sefydliadau sy’n ceisio ISO9000 neu Investors in People.


Harneisio Pwer Mapiau Meddyliol
Mae’r rhan fwyaf o bobl fusnes yn gwybod beth yw mapiau meddyliol ond ychydig sydd, mewn gwirionedd, yn gwybod pa mor effeithiol y gallent fod yn y byd busnes.  A oeddech yn gwybod y medrwch ddatblygu eich syniadau drwy ddefnyddio mapiau meddyliol ac yna eu troi nhw’n ddogfennau Word drwy glicio un botwm?.

A oeddech yn sylweddoli y gall eich mapiau meddyliol fod yn sioe sleidiau deinamig sy’n caniatáu i chi drosglwyddo eich syniadau yn syml a chlir i’r gynulleidfa?  Fe allech chi eu defnyddio i ddatblygu’r broses weinyddu a chynhyrchu a llawer iawn mwy.  Mae hyn i gyd yn werth buddsoddi ychydig o oriau a thalu pris mynediad rhesymol iawn i’r cwrs.


Paratowch Ragolygon Ariannol Realistig
Yn debyg iawn i’r cwrs ar lunio cynllun busnes, bydd y gweithdy hwn yn dangos sut y gallwch ddefnyddio patrymluniau rhagolygon ariannol (wedi eu dylunio yn Microsoft Excel) a sut i’w addasu i’ch anghenion penodol chi.  Byddem yn edrych ar ddulliau sy’n caniatáu ichi bwyso a mesur sawl senario a dangos sut y medrwch arddangos y canlyniadau ar ffurf ddarluniadol a rhifiadol.

I elwa ar y cwrs hwn fe fydd angen dealltwriaeth elfennol o daenlenni (spreadsheets) Excel arnoch chi.  Os nad ydych yn hyderus iawn yn defnyddio Excel, peidiwch â phoeni oherwydd mae gennym gwrs hyfforddi ar eich cyfer chi.

Gosod Prisiau Gwerthu sy’n Gwneud Elw
A ydych chi’n gwybod go iawn beth yw costau eich busnes?  A ydych yn gwybod beth yw maint yr elw gros (gross profit margin) ar gyfer eich cynnyrch neu a ydych yn edrych ar gyfrifon blynyddol y cwmni sy’n rhoi maint yr elw gros y busnes cyfan yn unig ac yna’n defnyddio synnwyr y bawd i fesur y cyfan?  Mae synnwyr y bawd yn medru bod yn beryglus ond eto mae hi’n dychryn dyn gymaint o gwmnïau sy’n ei ddefnyddio ac yna’n rhyfeddu dros y ffaith eu bod nhw wedi colli arian.

Pan ydych yn tendro am gytundeb newydd neu’n gosod pris am gynnyrch neu wasanaeth newydd a ydych wedi ystyried yn ofalus iawn y costau gwirioneddol?  Fe wnawn ni ddangos ichi ddull rhesymegol, ymarferol ac wedi ei brofi er mwyn gosod prisiau gwerthu realistig ar gyfer eich cynnyrch ac eich gwasanaethau.  Mae’r dull hwn yn gweithio i’r rhan fwyaf o fusnesau ac fe ddangosir ichi ba brisiau y dylech chi godi am eich cynnyrch i sicrhau eich bod chi’n gwneud yr elw yr ydych ei eisiau.

Fe ddangosir ichi daenlenni (speadsheets) syml y gall unrhyw un eu defnyddio yn gyflym i amcangyfrifo costau a phrisiau gwerthu sy’n ystyried costau a sefyllfaoedd y byd busnes go iawn. 


Byddwch yn Bendant
Adeiladwch eich hunan hyder a mynnwch fod eraill yn cymryd sylw o’r hyn yr ydych yn ei ddweud a’i wneud.  Edrychwch yn fanwl ar ymddygiad eraill a datblygwch eich ymateb eich hun. Rhowch stamp eich awdurdod fel arweinydd ar y grwp.  Dysgwch sut y mae eich rheoli eich hun yn rhoi awdurdod ichi mewn sefyllfaoedd sy’n codi rhwng pobl a’i gilydd.


Gwthio Gwerthiant yn Uwch
Dydy’r dywediad “Fydd cynnyrch da yn ei werthu ei hun” ddim yn wir.  Deliwch gyda gwrthwynebiadau, distawrwydd, a nerfau.   Dysgwch sut i wneud cyflwyniad gwerthu da sy’n creu argraff drawiadol yn ogystal â thechnegau i gloi’r gwerthu a throi’r “Na, dim diolch” yn “Iawn, diolch yn fawr".


Gofalu am eich Cwsmeriaid
Mae llawer o fusnesau yn cymryd eu cwsmeriaid yn ganiataol a, heb yn wybod efallai, yn eu trin yn wael.  Os ydych am gadw eich cwsmeriaid, adeiladwch berthynas dda rhwng y cwsmeriaid a chi.  Er mwyn gwella eich busnes, edrychwch arno drwy lygaid eich cwsmeriaid, ac fe welwch yn siwr o weld lle i wella.

Sut rydych chi’n delio gyda chwynion?  Sut mae eich derbynnydd yn delio gyda chwsmeriaid blin, diamynedd a siomedig?  Bydd y seminar undydd hon yn werthfawr iawn yn codi eich ymwybyddiaeth o’r materion hyn ynghyd â rhoi arfau ymarferol ichi ddatblygu a gwella'r berthynas rhyngoch a’r cwsmeriaid.


Cynyddwch Eich Busnes
Os yw’n cael ei reoli yn y ffordd iawn, fel popeth yn y byd busnes, mae tyfiant yn gallu bod yn fuddiol iawn i’ch busnes.  Mae’n bwysig i’w gynllunio’n fanwl gywir a’i drefnu’n ofalus gan ystyried popeth a all ddigwydd. 

Gall gynnydd hefyd olygu symud i safle gwaith arall neu fe all roi pwysau mawr arnoch yn ariannol.
Yn y gweithdy hwn y byddwn yn eich helpu i bwyso a mesur goblygiadau cynyddu eich busnes er mwyn darganfod a yw tyfiant busnes yn opsiwn sy’n werth ei ystyried yn achos eich cwmni.  Fe allwn hefyd weithio gyda chi i baratoi cynllun tyfiant.


Paratowch Gynllun Busnes sy’n Argyhoeddi
Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i baratoi cynllun busnes proffesiynol gyda help gwahanol batrymluniau ac esiamplau gweithio.  Fyddech yn elwa ar brofiad helaeth ein hymgynghorwyr yn ogystal â chael y cyfle i holi a gofyn cwestiynau ynglyn â’r pethau sy’n eich poeni. 

Mae eich cynllun busnes yn union fel  llun o’ch sefydliad i bobl, efallai, nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw, neu heb ymweld â’ch busnes – felly mae’n hanfodol bwysig i’w gael yn gywir.
Cyflwyniadau sy'n Creu Argraff
Gosod Prisiau Gwerthu
Rheoli Ymddygiad Heriol
Byddwch yn Bendant
Gwthio Gwerthiant yn Uwch
Marchnata Eich Busnes
Gofalu am Eich Cwsmeriaid
Lluniwch Ffurflenni Electronig
Cynyddwch Eich Busnes
Pwer Mapiau Meddyliol
Cynllun Busnes Argyhoeddiedig
Rhagolygon Ariannol Realistig
Business Training
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Map Safle
Dylunio Gwe:  Pobol y We